Ysgolion: Dim dyddiau ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgol gynradd
Disgrifiad o’r llun,
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf caniatawyd i ysgolion gynnal dyddiau HMS ychwanegol

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi na fydd ysgolion y wlad yn cael cynnal dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) ychwanegol yn ystod y flwyddyn academaidd nesa'.

O dan y drefn statudol, mae'n ofynnol i ysgolion ddarparu pum niwrnod o ddyddiau ar gyfer athrawon ym mhob blwyddyn ysgol.

Mae'r ysgolion ar gau i ddisgyblion ar y diwrnodau hyn ac athrawon yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi, rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf caniatawyd i ysgolion gynnal dyddiau HMS ychwanegol.

Mae'r Gweinidog yn caniatáu'r diwrnodau ychwanegol fel y gall ysgolion ganolbwyntio ar flaenoriaethau arbennig.

Ar gyfer blwyddyn ysgol 2011-12 cytunwyd hyn ar yr amod bod ysgolion yn trefnu'r dyddiau ychwanegol yn ystod tymor yr haf.

Hefyd cytunwyd y byddai nifer y dyddiau'n cael eu cwtogi petai'r ysgol wedi gorfod cau oherwydd tywydd garw yn ystod y ddau dymor blaenorol.

Blaenoriaethau

Ddydd Mercher cyhoeddodd Mr Andrews nad yw'n bwriadu cymeradwyo diwrnodau ychwanegol ar gyfer blwyddyn ysgol 2012-13.

"Dylai'r pum niwrnod HMS y darparwyd ar eu cyfer gan Gyflogau ac Amodau Athrawon Ysgol fod yn ddigon i ysgolion ymgymryd â'r hyfforddiant, y gwaith cynllunio a datblygiad proffesiynol sy'n ofynnol i gefnogi camau i wella ysgolion a chodi safonau," meddai.

"Fy mlaenoriaethau yw llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

"Credaf mai dyma yw blaenoriaethau ysgolion hefyd."

Roedd nifer o wleidyddion wedi codi pryderon nad oedd safonau sylfaenol ysgolion Cymru gystal â gwledydd eraill, fel yn y profion PISA diweddar ar gyfer disgyblion 15 oed.

Rhannu arfer da

Petai ysgolion y wlad yn methu yn eu hymgais i wella safonau, byddai'n adlewyrchu'n wael ar Lywodraeth Cymru a'u gallu i gyflwyno gwelliannau ym maes addysg.

"Disgwyliaf i bob ysgol neilltuo o leiaf un o'r pum niwrnod HMS statudol er mwyn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd," meddai Mr Andrews.

Dywedodd ei fod am i ysgolion rannu dulliau effeithiol o gynnal gweithgareddau i hybu datblygiad proffesiynol a fydd yn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd.

Byddai'n ystyried y ffordd orau o gasglu enghreifftiau o arferion da er mwyn eu rhannu rhwng ysgolion ym mhob cwr o Gymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol