Cyngor Sir Caerfyrddin yn prynu hen orsaf heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi prynu hen Orsaf Heddlu Rhydaman fel rhan o gynlluniau i ailddatblygu canol y dre'.
Fe brynodd Adran Adfywio'r cyngor y safle'n gynharach yn y mis am £152,000.
Mae'r awdurdod lleol wedi dweud eu bod yn gobeithio denu diddordeb y sector preifat a phartneriaid eraill.
Bydd y prosiect yn rhan o gynlluniau i adfywio'r dre' a'r bwriad yw ategu at waith amgylcheddol sydd wedi bod ar Sgwâr yr Arcêd a chyffordd Stryd Marged a'r gwaith i ddod ar Stryd y Cei.
Mae'r cyngor wedi prynu nifer o safleoedd eraill ers misoedd, gan gynnwys eiddo ar Res Ffowndri.
'Creu swyddi'
Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Kevin Madge: "Mae'r safle hwn wedi bod yn brif darged i'r cyngor ers iddo ddod yn wag.
"Rwy' wrth fy modd ein bod ni wedi ei brynu ar ôl blynyddoedd o geisio gwneud hynny.
"Bydd hyn yn golygu y gallwn ni adfywio'r safle hwn, gan greu swyddi a chyfrannu at adfywiad Rhydaman a Dyffryn Aman yn gyffredinol."
Ychwanegodd llefarydd y cyngor ar adfywiad a hamdden, y Cynghorydd Meryl Gravell: "Rwy' wrth fy modd fod y rhan yma o Rydaman yn cael ei hadfywio ac mae prynu'r safle hwn yn gam cynta'."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012