Coron cariad cynllunydd o Fro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Coron Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,
Anne Morgan o Benarth o'r Fro sydd wedi creu'r Goron

Coron sy'n dangos cariad y cynllunydd ar Fro Morgannwg sydd wedi ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Bro Morgannwg.

Mewn seremoni arbennig yn Y Barri fe gafodd y Goron ei chyflwyno.

Anne Morgan o Benarth o'r Fro sydd wedi creu'r Goron, yr un cyntaf iddi greu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rhoddir y Goron gan Gyngor Bro Morgannwg eleni a'r wobr ariannol gan Islwyn ac Ann Jones, Gwenfô.

'Ynys'

Fe fydd y Goron yn cael ei rhoi am ddilyniant o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell dan y teitl 'Ynys' a'r beirniaid yw Cen Williams, Cyril Jones a Penri Roberts.

Mae cynllun y Goron wedi'i ysbrydoli gan dirwedd dalgylch yr Eisteddfod eleni, gyda chreigiau a chlogwyni'r arfordir yn cael eu cynrychioli yn y cynllun syml ond trawiadol.

"Mae'n bleser gennym dderbyn y Goron hyfryd hon, sy'n adlewyrchu harddwch ein hardal," meddai Dylan Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod.

"Diolch i Gyngor Bro Morgannwg am eu haelioni, a gobeithio yn wir y bydd enillydd teilwng yn ei derbyn yn y seremoni ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Llun yr Eisteddfod yn Llandŵ.

"Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Islwyn ac Anne Jones am eu haelioni, yn rhoi'r wobr ariannol sylweddol eleni."

Ychwanegodd Maer Bro Morgannwg, Eric Hacker, eu bod yn edrych ymlaen at groesawu'r Eisteddfod i Fro Morgannwg ym mis Awst.

"Mae'n anrhydedd bod yr Eisteddfod yn dod i'n hardal ni, ac yn falch iawn o gyflwyno'r Goron ar ran y Cyngor.

"Mae Anne Morgan wedi cynhyrchu Coron fendigedig sy'n adlewyrchu harddwch y Fro."

Mae'r Goron o arian yn anghymesur, fel y tir o amgylch traethau'r Fro, ac mae hyn yn rhan ddramatig o'i chynllun.

Defnyddiodd Anne Morgan dechneg arbennig ar y Goron sy'n defnyddio fflam i drin yr arian er mwyn creu gwead arbennig ar y metel.

Cyfunodd y dechneg hon gydag arian afloyw, sy'n creu gwead tebyg i erydiad y môr ar bethau fel gwydr a cherrig.

"Dyma'r Goron gyntaf i mi ei chreu ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac rwy'n gobeithio'i bod yn adlewyrchu fy nheimladau am yr ardal a dalgylch yr Eisteddfod.

"Rwy'n byw ac yn gweithio yn ardal Penarth ers blynyddoedd, ac felly, yn naturiol, mae'r arfordir wedi ysbrydoli fy ngwaith.

"Mae wedi bod yn anrhydedd cael rhoi'r ysbrydoliaeth yma ar waith i greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni."

Fe fydd seremoni'r Coroni ddydd Llun Awst 6 am 4.30pm.

Mae'r Eisteddfod ar dir hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr rhwng Awst 4-11.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol