Tân: Gadael 50 o dai yn Y Blaenau, ger Abertyleri
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, PA
Bu'n rhaid sicrhau bod y silindr nwy yn cael ei oeri
Bu'n rhaid i bobl adael 50 o dai fore Mercher wedi tân yn ymwneud â silindr asetylen mewn garej.
Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i'r Blaenau ger Abertyleri am 3.13am i'r garej yn Stryd Coronation.
Aeth criwiau o'r Blaenau a Brynmawr i'r safle.
Bu'n rhaid sicrhau bod y silindr nwy yn cael ei oeri.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol