Bom ffug: Dyn gerbron ynadon
- Cyhoeddwyd
Cafodd Llyfrgell Wrecsam ei gwagio yn ogystal â Neuadd y Dref
Mae dyn gafodd ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad arweiniodd at wagio neuadd y dref Wrecsam wedi cael ei gadw yn y ddalfa gan ynadon.
Ymddangosodd Colin Davies, 52 oed o Frynteg, gerbron yr ynadon ar gyhuddiad o fod â gwn ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi ofn am drais, ffugio bom a bod â chyllell yn ei feddiant.
Cafodd yr heddlu eu galw i neuadd y dref am 10:12am ddydd Mawrth o ganlyniad i ddyn yn ymddwyn yn amheus.
Cafodd y neuadd a'r llyfrgell gerllaw eu gwagio rhag ofn, ac fe gafodd dyn ei arestio yn fuan wedyn.
Bydd Davies yn ymddangos yn Llys y Goron ar ddydd Gwener Mehefin 8.