Clwb pêl-droed Sheffield United yn rhyddhau Ched Evans

  • Cyhoeddwyd
Ched EvansFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio

Mae'r pêl-droediwr Ched Evans wedi cael ei ryddhau gan ei glwb Sheffield United.

Cafodd Evans, 23 oed, ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill ar ôl i lys ei gael yn euog o dreisio menyw 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan ym mis Mai 2011.

Mae Evans, sydd hefyd wedi cynrychioli Cymru, yn dweud y bydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad.

Sgoriodd y blaenwr 35 gôl mewn 42 gêm i Sheffield United y tymor hwn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol