Penderfynu cynllun iaith Ofcom
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, Leighton Andrews, wedi penderfynu telerau cynllun iaith Gymraeg Ofcom.
Bydd disgwyl i'r corff "roi ystyriaeth briodol i'r defnydd o'r Gymraeg wrth gyflawni swyddogaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau i'r cyhoedd".
Ofcom sy'n rheoleiddio'r sectorau teledu a radio, telathrebu sefydlog a symudol yn ogystal â'r tonau awyr y mae dyfeisiadau diwifr yn eu defnyddio.
Methu â chytuno
Cyfeiriwyd y mater at weinidogion Cymru ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac Ofcom fethu â chytuno ar y cynllun iaith.
Roedd y bwrdd am i Ofcom gael dyletswydd statudol fyddai'n ystyried faint o gynnwys Cymraeg fyddai'n cael ei ddarlledu pan oedd y corff yn dyfarnu trwyddedau.
Ddydd Mercher dywedodd y Gweinidog ei fod wedi rhoi gwybod i Ofcom a Chomisiynydd y Gymraeg ei fod wedi arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14(5) Deddf 1993.
Mae'r cynllun yn cynnwys y canlynol:
"Byddwn ni [Ofcom] yn rhoi ystyriaeth briodol i'r defnydd o'r Gymraeg wrth gyflawni ein swyddogaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau i'r cyhoedd. Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys:
- paratoi a chyhoeddi ein Canllawiau Lleolrwydd, a
- chyflawni ein swyddogaethau trwyddedu mewn modd sy'n anelu at sicrhau bod deunydd lleol yn cael ei gynnwys mewn darllediadau trwyddedig, gan gynnwys deunydd sydd â chynnwys ieithyddol penodol a/neu'n cael ei gyflwyno mewn modd ieithyddol penodol a hynny, lle bo angen, drwy osod amodau ar y drwydded.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth y gweinidog fygwth gorfodi'r corff darlledu i ystyried lefel cynnwys deunydd Cymraeg wrth ddyfarnu trwyddedau radio masnachol.
Dyfarniad
Bryd hynny, dywedodd Ofcom fod rhaid iddyn nhw ystyried "deunydd lleol" fel rhan o'u canllawiau o dan y Ddeddf Gyfathrebu ond nad oedd rhaid iddyn nhw ystyried ffactorau ieithyddol.
Bore Mercher derbyniodd lythyr oddi wrth y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yn nodi beth oedd ei ddyfarniad ynghylch telerau cynllun iaith Gymraeg Ofcom.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn heddiw.
"Mae penderfyniad y llywodraeth yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer gweithredu Mesur y Gymraeg 2011."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2012
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd20 Medi 2011