Lladrad arfog: Arestio dyn 28 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio yn ardal Trelluest (Grangetown), Caerdydd ar amheuaeth o gynnal lladrad arfog.
Cafodd y dyn ei arestio yn Stryd Cornwall yn dilyn y digwyddiad ym mhecws Bruton's yn Heol Clare.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio.