Brendan Rodgers yw rheolwr newydd Lerpwl
- Cyhoeddwyd

Mae'r BBC ar ddeall bod rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd i fod yn rheolwr cglwb Lerpwl.
Deellir y bydd cadarnhad bod Rodgers, 39 oed, yn y swydd o fewn 24 awr.
Bydd Lerpwl yn talu rhwng £4m a £5m o iawndal i Abertawe am wasanaeth y dyn o Ogledd Iwerddon.
Cafodd Kenny Dalglish ei ddiswyddo gan Lerpwl ar Fai 16 wedi iddyn nhw orffen yn wythfed yn yr Uwchgynghrair.
Roedd hynny er i Lerpwl ennill Cwpan Carling a chyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.
Ar y llaw arall, mae Rodgers wedi arwain yr Elyrch mewn tymor cyntaf llwyddiannus yn y brif adran, gan orffen y tymor gyda buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Lerpwl yn Stadiwm Liberty.
Nifer o enwau
Roedd sawl enw wedi eu cysylltu â'r clwb o Anfield, gan gynnwys Roberto Martinez o Wigan, cyn reolwr Chelsea Andre Villas-Boas, a rheolwr Ajax, Frank de Boer.
Ond mae'n ymddangos mai Rodgers oedd ffefryn Lerpwl.
Dechreuodd ei yrfa fel rheolwr gyda Watford yn 2008 wedi cyfnodau fel hyfforddwr yn Reading a Chelsea.
Dychwelodd i Reading fel rheolwr am gyfnod byr ac anhapus cyn cael ei benodi gan Abertawe yng Ngorffennaf 2010.
Arweiniodd yr Elyrch i ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair ym mis Mai y llynedd - y tîm cyntaf o Gymru i wneud hynny.