Anafiadau difrifol wedi damwain ger Y Trallwng
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi i yrrwr gael ei anafu'n ddifrifol yn dilyn damwain ffordd ger y Trallwng.
Digwyddodd y ddamwain tua 2pm Ddydd Mercher Mai 30 ar ffordd y B4393 ger Llandrinio, Y Trallwng.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys dim ond un car, sef Vauxhall Vectra, oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Y gred yw nad oedd 'na'r un car arall yn rhan o'r ddamwain.
Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu 01267 222020.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol