Cymry Llundain yn bencampwyr
- Cyhoeddwyd
Cymry Llundain(6) 29- 20 (13) Môrladron Cernyw
Enillodd Cymry Llundain Bencampwriaeth Undeb Rygbi Lloegr gan guro Môrladron Cernyw 66-41 ar gyfanswm dros ddau gymal nos Fercher.
Ond mae eu gobeithion am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr dal yn y fantol.
Roedd yr Alltudion wedi dweud y byddant yn rhannu Stadiwm Kassam gyda thîm pêl-droed Rhydychen pe baent yn cael eu dyrchafu - ond doedd hynny ddim yn ddigon da i Undeb Rygbi Lloegr.
Cyhoeddodd yr undeb na fydd yr Alltudion yn cael esgyn o'r Bencampwriaeth oherwydd nad yw'r clwb wedi cyrraedd y safonau angenrheidiol i chwarae yng Nghynghrair Aviva.
Mae Cymry Llundain yn apelio ynghylch y penderfyniad hwn.
Cyn gêm nos Fercher dywedodd Llywydd y clwb, John Dawes, y byddai cadeirydd Cymry Llundain, Bleddyn Phillips, yn cymryd y "camau eithaf" i sicrhau y byddai'r Alltudion yn cael eu dyrchafu.
Nos Fercher fe wnaeth yr Alltudion ennill ail gymal y gemau ail gyfle yn erbyn Môrladron Cernyw 29-20 ar ôl curo eu gwrthwynebwyr oddi cartref 37-20 nos Fercher diwethaf.
Cymry Llundain
Cais: Tonga'uiha, Moates
Trosgais: Davies 2
Cig gosb: Davies 5
Môrladron
Cais: Evans, Storer
Trosgais: Cook (2)
Cig gosb: Cook
Gôl Adlam: Penberthy
Straeon perthnasol
- 24 Ebrill 2012
- 27 Mawrth 2012