Golff: Pencampwriaeth Cymru'n dechrau

  • Cyhoeddwyd
Jose Maria OlazabalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Jose Maria Olazabal fydd capten tîm Ewrop ym mis Medi

Mae capten tîm Cwpan Ryder Ewrop ym mis Medi ymhlith y rhai sy'n ceisio ennill pencampwriaeth Cymru ar gwrs y Celtic Manor dros y penwythnos.

Ar ddiwrnod cynta'r gystadleuaeth, dywedodd Jose Maria Olazabal bod y cwrs yng Nghasnewydd mewn cyflwr gwych, a'i fod yn edrych ymlaen at bedwar diwrnod o golff o'r safon uchaf.

Mae wyth o Gymry'n cystadlu eleni, gyda thri golffiwr amatur - Rhys Enoch, Rhys Pugh a Jason Shufflebotham - yn ymuno gyda'r chwaraewyr proffesiynol.

Prif obaith y Cymry mae'n debyg yw Jamie Donaldson sydd eisoes wedi gorffen yn y deg uchaf ar gylchdaith Ewrop eleni.

Ond fe gafodd rownd gyntaf drychinebus 10 ergyd yn waeth na'r safon i'w adael mewn perygl o fethu'r penwythnos.

Fe fydd profiad Bradley Dredge a Phillip Price yn bwysig ar eu tomen eu hunain, ac fe orffennodd Dredge ei rownd gyntaf un ergyd yn waeth na'r safon wrth i Price orffen ei rownd gyntaf yntau bedair ergyd yn waeth na'r safon.

Fe greodd yr amatur Rhys Pugh gryn argraff yn ei ymddangosiad cyntaf yn y brif gylchdaith, a gorffennodd ei rownd gyntaf ddwy ergyd yn waeth na'r safon.

Un arall sydd wedi gweld ei chwarae'n gwella dros yr wythnosau diwethaf yw Rhys Davies ond roedd ef bedair ergyd yn waeth na'r safon.

Pencampwriaeth Agored Cymru: Celtic Manor, Casnewydd: Rownd gyntaf

1. Lee Slattery (Lloegr) -4 (67)

=2. Marcel Siem (Almaen) -3 (68)

=2. Tim Sluiter (Yr Iseldiroedd) -3 (68)

Y Cymry :-

=21. Bradley Dredge = +1 (72)

=30. Rhys Pugh (A) = +2 (73)

=61. Phillip Price = +4 (75)

=61. Rhys Davies = +4 (75)

=91. Rhys Enoch (A) = +6 (77)

=136. Jamie Donaldson = +10 (81)

=144. Richard Johnson = +11 (82)

=144. Jason Shufflebotham (A) = +11 (82)