Cantores - ac awdur - yn lansio albwm newydd yng Ngŵyl y Gelli.
- Cyhoeddwyd

Mae Gŵyl Lyfrau'r Gelli yn dechrau ar Fai 31 ac yn denu sêr o fyd llenyddiaeth, comedi a cherddoriaeth.
Ers 25 mlynedd mae'r dref, sy'n enwog am ei siopau llyfrau, wedi croesawu awduron enwog.
Dywedodd y gantores a'r awdur Fflur Dafydd, sy'n lansio ei halbwm newydd yn yr ŵyl, ei bod yn gobeithio y byddai cynulleidfa newydd yn darganfod ei cherddoriaeth.
"Gan fod yr ŵyl yn un ryngwladol, Saesneg yw'r brif iaith," meddai.
Ymhlith y rhai sy'n ymddangos eleni mae Terry Pratchett, Lionel Shriver, Salman Rushdie, Martin Amis, Victoria Hislop ac Ian McEwan.
Mae Hilary Mantel, a enillodd wobr lenyddol Booker yn 2009, yn lansio ei nofel newydd.
'Yn rhan ohoni'
"Felly bydd hi'n neis bod y Gymraeg yn cael bod yn rhan ohoni.
"Bydd lot o bobl yn clywed Cymraeg yn cael ei chanu am y tro cynta a falle ei bod yn haws i'r iaith 'ddod i mewn' drwy'r gerddoriaeth.
"Mae'n bosib mwynhau'r gerddoriaeth hyd yn oed os nad wyt ti'n deall y geiriau."
Dywedodd ei bod hi'n edrych ymlaen at berfformio gyda Cerys Matthews.
'Amrywiaeth'
"Mae'n dda bod artistiaid benywaidd yn cael cyfle i gynrychioli diwylliant Cymraeg," meddai.
"Ac mae'n dda dangos amrywiaeth y pethau sy'n mynd ymlaen yng Nghymru."
Bydd ei halbwm, Ffydd, gobaith, cariad, yn cael ei lansio ar Fehefin 4.
Mae'r Cyngor Llyfrau wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau a bydd yr Athro M Wynn Thomas yn ei holi am ysgrifennu mewn dwy iaith.
Bydd Gŵyl y Gelli yn gorffen ar Fehefin 10.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2011
- Cyhoeddwyd27 Mai 2010
- Cyhoeddwyd24 Mai 2009