Llofruddiaeth Caergrawnt: Mwy o amser i holi
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Sir Gaergrawnt wedi cael mwy o amser i holi dau ddyn ynglŷn â llofruddiaeth ffermwr o Gymru.
Cafwyd hyd i gorff Llywelyn Thomas, 76 oed, yn wreiddiol o Sain Ffagan ger Caerdydd, wedi i'r heddlu gael eu galw i'w gartref yn Chittering, Sir Gaergrawnt, ar Ragfyr 18.
Cafodd ditectifs 36 awr arall i holi'r ddau ddyn 20 oed a 24 oed.
Mae dau ddyn 22 oed a 26 oed a llanc 16 oed gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi eu rhyddhau ar fechniaeth tan Orffennaf 17.
Archwilio
Mae dynes 26 oed gafodd ei harestio ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder hefyd wedi ei rhyddhau ar fechniaeth tan Orffennaf 17.
Roedd yr heddlu'n archwilio nifer o adeiladau yn ne Sir Gaergrawnt.
Y gred yw bod Mr Thomas wedi cael ei ladd wrth i rywun geisio lladrata o'i dŷ rhwng 9.30pm a 10pm ar Ragfyr 17.
Dwyn
Cafodd ei gar Rover arian gyda'r rhif cofrestru BJ51 CJV ei ddwyn a chafwyd hyd iddo mewn pentref i'r gogledd ddwyrain o Gaergrawnt, Milton.
Dangosodd archwiliad post mortem iddo farw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.
Roedd yn ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.
Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2012
- Cyhoeddwyd1 Mai 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011