Corff ger Llyn Efyrnwy: Heddlu yn apelio
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am help i adnabod corff dyn gafodd ei ddarganfod mewn llyn bach ger Llyn Efyrnwy yn gynharach ym mis Mai.
Dywedodd ditectifs eu bod yn gobeithio y byddai watsh anarferol y dyn yn eu helpu.
Cafwyd hyd i gorff y dyn ar Fai 23 yn rhaeadr Rhiwargor.
Roedd yr heddlu wedi dweud nad oedd y farwolaeth yn amheus.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yr wythnos diwethaf.
Symbol
Roedd y dyn 60 oed â gwallt coch, yn 5'11" o daldra ac yn gwisgo sbectol a dillad tywydd oer.
Y gred yw bod y corff wedi bod yn y llyn rhwng wythnos a mis.
Yn ôl yr heddlu, roedd ei watsh ag wyneb du gyda symbol rhedynen arian Seland Newydd arno.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Diane Davies: "Rydyn ni am adnabod y dyn fel y gall y teulu wneud trefniadau ar gyfer ei angladd."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.
Straeon perthnasol
- 25 Mai 2012
- 24 Mai 2012
- 24 Mai 2012