Damwain trên: Cyhuddo dyn
- Cyhoeddwyd

Y tren yn dilyn y ddamwain
Mae'r Heddlu Trafnidiaeth wedi dweud bod dyn 49 oed wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â damwain trên ar gyrion Hendy-gwyn ar Daf ym mis Rhagfyr.
Roedd y ddamwain rhwng lori oedd yn cludo dau drelar gwair a'r trên ar groesfan Henllan Amgoed ar Ragfyr 19.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Gallaf gadarnhau bod Oswald Huw Davies, 49 oed, o Gastell Pigyn, Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, wedi ei gyhuddo o beryglu diogelwch pobl sy'n defnyddio'r rheilffordd."
Roedd bron 60 o deithwyr ar y trên.
Roedd angen triniaeth mewn ysbyty ar bump ohonyn nhw.
Bydd gerbron Ynadon Caerfyrddin ar Fehefin 6.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol