Ymosodiad: Atal gwasanaeth bws?
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni yn rhybuddio y bydd gwasanaeth bws yn Llanelli yn cael ei atal os ymosodiadau pobl ifanc yn parhau.
Yn ôl First Cymru, mae rhai wedi defnyddio gwn aer a chatapwlt wrth ymosod ar fysus yn ardal Llwynhendy.
Mae'r heddlu wedi dweud y bydd plismyn yn teithio ar y gwasanaeth 111 rhwng Llanelli a Gorseinon wedi 5.30pm.
Dywedodd rheolwr gwasanaethau'r cwmni, Owen Williams: "Mae'r heddlu wedi bod o help mawr ers y digwyddiad diweddaraf nos Iau diwethaf.
'Pryder'
"Maen nhw'n teithio ar y bysus er mwyn ceisio dal y troseddwyr.
"Ond mae pryder am ddiogelwch gyrwyr a theithwyr oherwydd yr ymosodiadau."
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Yn hanesyddol, mae'r gwasanaeth wedi wynebu problemau o'r fath a phenderfynodd cwmni arall Veolia roi'r gorau i'r gwasanaeth oherwydd ymosodiadau.
'Risg'
"Mae risg iechyd a diogelwch i yrwyr a theithwyr ac os na fydd yr ymosodiadau'n dod i ben bydd rhaid rhoi diwedd ar y naw gwasanaeth rhwng 5pm a 11.30pm."
Mae'r gwasanaeth yn derbyn cymhorthdal oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Abertawe.