Morgannwg 'mewn safle cryf'
- Cyhoeddwyd

Mae 100 gwefreiddiol gan Mark Wallace yn golygu bod Morgannwg mewn safle cryf ar drydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Sir Gaerlŷr yn Stadiwm Swalec, Caerdydd, i gael eu buddugoliaeth gyntaf o'r haf wedi tridiau o chwarae.
Erbyn diwedd yr ail ddiwrnod roedd y tîm cartref wedi sgorio 31 yn fwy o rediadau na chyfanswm batiad cyntaf Sir Gaerlŷr, gan golli dim ond pum wiced.
Er i Forgannwg golli Dean Cosker am ddim ond pum rhediad ychwanegodd Jim Allenby a'i gapten, Wallace 139 o rediadau am y chweched wiced cyn i Allenby gael ei ddyfarnu c.f.w am 61 rhediad.
Ychwanegodd Wallace a James Harris 94 rhediad am yr wythfed wiced cyn i Ned Eckersley ddal Harris oddi ar fowlio Claude Henderson am 48 rhediad wedi iddo daro'r ffin saith tro.
Sgoriodd Wallace 118 rhediad oddi ar 150 pêl gan daro'r ffin 12 gwaith cyn i Henderson ei ddisodli.
Llwyddodd Morgannwg i sgorio'r cyfanswm sylweddol o 558 rhediad cyn i Wallace gau'r batiad.
Dechreuodd Sir Gaerlŷr eu hail-fatiad 287 o rediadau y tu ôl i'r tîm cartref ac fe gawson nhw ddechrau gwael pan ddaliodd Wallace Greg Smith oddi ar fowlio James Harris am 10 rhediad.
Ond batiodd Michael Thornley (36 heb fod allan) a Ned Eckersley (37 heb fod allan) yn ofalus wrth i'r ymwelwyr sgorio 84 am 1 wiced.
Mae'r tîm cartre' ar waelod ail adran y bencampwriaeth gyda dim ond 27 pwynt a Sir Gaerlŷr yn y safle olaf ond un gyda 45 pwynt.
Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2
Morgannwg v Sir Gaerlŷr - Trydydd diwrnod
Sir Gaerlŷr = (batiad cyntaf)271
= (ail fatiad)84-1
Morgannwg = (batiad cyntaf)558-9
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2012
- Cyhoeddwyd29 Mai 2012
- Cyhoeddwyd26 Mai 2012