Rali gan weithwyr Remploy yng Nghaerdydd yn erbyn cau ffatrioedd
- Cyhoeddwyd

Daeth tua 200 o staff Remploy o bob cwr o Gymr at ei gilydd ar gyfer rali yng Nghaerdydd i brotestio yn erbyn cynlluniau i gau ffatrïoedd sy'n cyflogi pobl anabl.
Dywedodd undebau y gall hyd at 1,700 o bobl golli eu gwaith os fydd y bwriad i gau 36 o'r 54 o ffatrïoedd Remploy yn mynd ymlaen.
Mae saith o'r naw ffatri yng Nghymru o dan fygythiad.
Y bwriad yw cau safleoedd Abertawe, Aberdâr, Abertyleri, Merthyr Tudful, Croespenmaen, Pen-y-Bont ar Ogwr a Wrecsam yn yr haf gan roi 281 o swyddi mewn perygl.
Mae undeb Unite yn dweud bod nifer y ffatrïoedd i gau gan Lywodraeth y DU yng Nghymru yn "anghyfartal".
Fe wnaeth eu haelodau ac aelodau undeb GMB gyfarfod yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, cyn gorymdeithio ar hyd Heol y Frenhines ac yn ôl i Neuadd y Ddinas ar gyfer rali ddydd Gwener.
Amrywiol feysydd
"Mae Unite a GMB gresynu gweithred Llywodraeth y DU ar Remploy sy'n arwydd arall ar ymosod ar y gweithwyr mwya bregus galeta'," meddai Ysgrirfennydd Unite Cymru, Andy Richards.
"I'r gwrthwyneb, rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymroddedig i weithio gyda nhw er mwyn canfod atebion i sicrhau dyfodol tecach i weithwyr Remploy."
Mae gweithwyr Remploy yn cael eu cyflogi mewn amrywiol feysydd o ddodrefn a phacio i ailgylchu eitemau trydanol.
Dywedodd Llywodraeth y DU y dylai ffatrïoedd Remploy sy'n "anghynaliadwy" gau ac y dylai'r arian gael ei ail-fuddsoddi mewn cynlluniau eraill.
Mae cronfa o £8 miliwn yn cael ei sefydlu i gynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio i ganfod cyflogaeth amgen.
Mae 'na sawl proest eisoes wedi bod ar draws Prydain gan gynnwys y tu allan i San Steffan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012