Ymchwilio i amgylchedd hanesyddol Cymru
- Published
Fe fydd un o bwyllgorau'r Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol.
Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ceisio barn pobl ynghylch pa mor effeithiol yw Llywodraeth Cymru wrth ofalu am adeiladau a chofadeiladau hanesyddol Cymru.
Bydd ymchwiliad y pwyllgor yn canolbwyntio ar nifer o faterion, gan gynnwys pa mor effeithiol yw systemau presennol Llywodraeth Cymru i ddiogelu a rheoli adeiladau a chofadeiladau hynafol, safleoedd archeolegol a morol yn ogystal â pharciau, tirweddau a gerddi hanesyddol.
Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried beth fyddai'r goblygiadau pe bai swyddogaethau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw, yn cael eu cyfuno.
Mae gan Gymru dri Safle Treftadaeth y Byd, 34,000 o gofadeiladau cofrestredig ac adeiladau rhestredig, a thros 400 o barciau, tirweddau a gerddi hanesyddol rhestredig.
Bil Treftadaeth
"Mae gan Gymru gyfoeth o hanes amrywiol, a daw'r hanes hwnnw'n fyw drwy ein holl leoliadau hanesyddol ledled y wlad," meddai Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor.
"Mae'r ymchwiliad yn amserol, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil Treftadaeth yn 2014-15.
"Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, hefyd wedi sefydlu gweithgor i edrych ar sut y gall swyddogaethau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gael eu cyfuno â swyddogaethau sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw."
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth i'r ymchwiliad wneud hynny naill ai drwy e-bost: Pwyllgor.CCLlL@cymru.gov.uk neu drwy ysgrifennu at: Y Clerc, Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw Mehefin 29 2012.