Dathliadau Diemwnt
- Cyhoeddwyd

Mae'r Frenhines yn dathlu Jiwbilî Diemwnt dros benwythnos estynedig gŵyl y banc.
Dyma'r ail waith i unrhyw frenin neu frenhines nodi'r Jiwbilî Diemwnt.
Y Frenhines Victoria oedd yr unig un arall i fod yn teyrnasu am dros 60 mlynedd, 63 mlynedd.
Mae'r Frenhines a Dug Caeredin eisoes wedi dechrau ar flwyddyn o ddathlu gan ymweld â rhannau o Brydain, gan gynnwys Cymru ym mis Ebrill.
Gyda diwrnod ychwanegol o wyliau ddydd Mawrth mae 'na nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru ac fe fydd gan Y Frenhines ei hun ddyddiau prysur iawn.
Picnic a choelcerthi
Dydd Sadwrn fe fydd Y Frenhines yn mynychu'r Derby yn Epsom cyn y bydd cinio mawr a'r fflyd o 1,000 o fadau ar Afon Tafwys ddydd Sul.
Dydd Llun fe fydd 'na bicnic yn y Palas cyn cyngerdd mawreddog gyda 10,000 o bobl wedi cael ticedi drwy falot.
Fe fydd y cyngerdd y tu allan i Balas Buckingham.
Nos Lun fe fydd 4,000 o goelcerthi yn cael eu goleuo mewn gwahanol lefydd ar draws Prydain, gan gynnwys llefydd yng Nghymru.
Dydd Mawrth bydd gwasanaeth o ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol St Paul's yn Llundain, gorymdaith drwy'r ddinas a thaith awyrennau uwchben y Palas wrth i'r Frenhines ymddangos ar y balconi.
Wedi'r dyddiau o ddathlu fe fydd Y Frenhines a Dug Caeredin yn parhau ar eu taith i wahanol ardaloedd o Brydian yn ystod y flwyddyn.