Sgrôl i ddiolch i'r Frenhines gan y Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Bydd copi o sgrôl arbennig gafodd ei gomisiynu i ddathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Elizabeth yn cael ei arddangos yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Gwener.
Eisoes mae'r sgrôl gwreiddiol wedi cael ei anfon i'r Frenhines.
Mae'r sgrôl yn cynnwys neges gan Lywydd y Cynulliad Rosemary Butler ar ran y cynulliad yn llongyfarch y Frenhines am 60 mlynedd o "wasanaeth".
Cafodd ei gynllunio gan Ieuan Rees ceinlythrennydd o Gaerfyrddin.
Bydd y copi o'r sgrôl yn cael ei arddangos yn y Senedd tan Fehefin 15.
"Mae'n briodol bod pobl Cymru yn cydnabod y gwaith sylweddol y mae'r Frenhines wedi ei wneud dros Gymru dros y 60 mlynedd y mae wedi bod ar yr orsedd," meddai Ms Butler
"Gwn fod cymunedau ledled Cymru yn gwneud gwahanol bethau i nodi'r garreg filltir hon.
"Credaf ei bod yn briodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nodi'r Jiwbilî ar ran holl bobl Cymru."
Artist
Graddiodd Mr Rees o'r Coleg Celf Brenhinol gyda Gradd Meistr mewn Cynllunio yn 1967 ac mae wedi gweithio fel artist/crefftwr ar ei liwt ei hun ers dros 40 o flynyddoedd.
"Roedd hi'n anrhydedd bod Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gofyn i mi ddylunio sgrôl goffa ar ran y ddeddfwrfa i nodi Jiwbilî Ddiemwnt Ei Mawrhydi Y Frenhines," meddai.
"Mae'r cynllun, er yn fwriadol yn syml ac urddasol, wedi'i grefftio i nodi diffuantrwydd neges Rosemary ar ran y Cynulliad i'w Mawrhydi am y cyflawniad hynod hwn."
Mae modd gweld fersiwn llawn o'r sgrôl gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy wefan Flicker.