Coedwigoedd newydd i ddathlu'r Jiwbilî
- Cyhoeddwyd

Mae dwy goedwig newydd wedi cael eu plannu yn ne Cymru i ddathlu'r Jiwbilî.
Maen nhw ymhlith 60 sydd yn cael eu plannu dros Brydain yn ogystal â 250 o goedydd llai.
Yng Nghymru bydd un o 'Goedwigoedd Ddiemwnt' yn cael eu plannu ar gae ras Ffos Las yn Nhrimsaran, Sir Gaerfyrddin, a'r llall ym mharc Bluestone yn Sir Benfro.
Y bwriad yw i'r coedwigoedd orchuddio 60 erw o dir i symboleiddio 60 mlynedd o deyrnasiad y Frenhines.
Mae Coed Cadw yn gobeithio y bydd twf mawr ym mioamrywiaeth yn dilyn plannu'r coedwigoedd.
Dywedodd Emily Stokes, llefarydd ar gyfer Coed Cadw: "Cyn gynted a bydd y gwreiddiau'n mynd mewn i'r ddaear maent yn gallu atal erydiad a chadw dŵr yn y pridd.
"Yn gynnar iawn bydd aderyn fel caseg y ddrycin i'w weld mewn coedwig sydd yn tyfu, yna'r eos sydd yn hoffi coedwigoedd ifainc oherwydd y gofod eang rhwng y coed.
"Mewn amser bydd llawer o wahanol fathau o adar yn defnyddio'r coed i fwydo, clwydo, ac, wrth gwrs, i nythu."
Meddai Ms Stokes y byddai'r coedwigoedd yn cymryd 10 mlynedd i ddechrau cyrraedd aeddfedrwydd.
Bu llawer o wirfoddolwyr yn helpu i blannu'r coed a dywedodd Ms Stokes ei bod yn gobeithio byddant yn cael pleser o'r coedwigoedd wrth iddynt dyfu.
"Bydd yna gyfleoedd i gerdded neu feicio a bydd cyfle i blant ddysgu mwy am blanhigion.
"Mae'n ddiwrnod allan sy'n rhad ac am ddim."