Gêm gyfartal i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Gêm gyfartal gafodd Morgannwg yn eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Gaerlŷr yn Stadiwm Swalec ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Gwener.
Dechreuodd Sir Gaerlŷr eu hail-fatiad 287 o rediadau y tu ôl i'r tîm cartref ac fe gawson nhw ddechrau gwael pan ddaliodd Wallace Greg Smith oddi ar fowlio James Harris am 10 rhediad brynhawn Iau.
Ond batiodd Michael Thornley (131) a Ned Eckersley (137 heb fod allan) yn wych gan fatio drwy'r rhan helaeth o'r diwrnod olaf.
Ychwanegodd y ddau 245 rhediad am yr ail wiced wrth i'r ymwelwyr sgorio 316 am 2 wiced erbyn diwedd y gêm.
Mae'n bosib y bydd Morgannwg yn difaru taw dim ond un troellwr, Dean Cosker, oedd yn eu tîm ar gyfer y gêm hon.
Cipiodd Jim Allenby a James Harris wiced yr un ond methodd Cosker gymryd yr un wiced er iddo fowlio 28 pelawd.
Mae'r tîm cartre' ar waelod ail adran y bencampwriaeth gyda dim ond 37 pwynt a Sir Gaerlŷr yn y safle olaf ond un gyda 51 pwynt.
Yn y cyfamser mae Bwrdd Criced Lloegr a Chymru wedi cadarnhau mai Stadiwm Swalec ynghyd â'r Oval ac Edgbaston fydd y tri lleoliad ar gyfer Tlws y Pencampwyr fydd yn cael ei gynnal ym mis Mehefin 2013.
Roedd Stadiwm Swalec i fod i gynnal y Gêm Brawf gyntaf haf nesaf yn erbyn Seland Newydd ond gofynnodd Morgannwg i beidio â chynnal y gêm am fod gwerthiant tocynnau ar gyfer y Gêm Brawf yn erbyn Sri Lanka'r llynedd wedi bod mor wael.
Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2
Morgannwg v Sir Gaerlŷr - Pedwerydd diwrnod (amser cinio)
Sir Gaerlŷr = (batiad cyntaf)271
= (ail fatiad)316-2
Morgannwg = (batiad cyntaf)558-9
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2012
- Cyhoeddwyd30 Mai 2012
- Cyhoeddwyd29 Mai 2012
- Cyhoeddwyd26 Mai 2012