Twyll: Gofalwr o Landudno yn cael ei charcharu

  • Cyhoeddwyd

Mae gofalwr wnaeth ddwyn tua £14,000 o ddau gyfri banc menyw oedrannus wedi ei charcharu am 40 wythnos.

Cyfaddefodd Yvette Hodgson, 52 oed o Landudno i ddau gyhuddiad o dwyll mewn swydd gyfrifol yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Dywedodd y barnwr, Mr Cofiadur John Jenkins QC, ei bod wedi cyflawni tor-ymddiriedaeth.

Yn ystod saith wythnos yn 2010 fe wnaeth Hodgson ddwyn yr arian oddi wrth y dioddefwr 70 oed oedd yn agored i niwed oherwydd ei hoedran a chyflwr ei hiechyd.

Ffonio'r heddlu

Clywodd y llys fod y troseddau wedi effeithio ar y dioddefwr yn emosiynol ac yn ariannol a'i bod wedi symud i fyw i gartref preswyl.

Dywedodd Mr Cofiadur Jenkins wrth Hodgson: "Chi oedd ei gweithiwr gofal penodedig.

"Roeddech chi wedi ei hadnabod ers pedair blynedd ac roedd hi'n eich ymddiried.

"Ond defnyddioch chi ei chardiau banc i odro ei chyfrifon banc."

Dywedodd yr erlynydd Caroline Harris fod y dioddefwr, Mrs Winifred French yn byw ar ben ei hun.

Ychwanegodd y byddai Hodgson yn ymweld â Mrs French unwaith bob pythefnos gan fynd â hi i'r dref yn achlysurol.

Clywodd y llys fod Mrs French wedi ffonio'r heddlu ym mis Mehefin 2010 wedi iddi sylweddoli bod ei charden banc ar goll a bod arian wedi diflannu o'i chyfrifon banc.

Wedi i Hodgson gael ei harestio a'i holi ynghylch y cyhuddiadau cyfaddefodd Hodgson ei bod wedi cyflawni'r troseddau.

Dywedodd wrth yr heddlu ei bod wedi gwario'r arian ar "bethau hurt" gan gynnwys trip siopa i Traford Center ym Manceinion.

Dywedodd Brian Treadwell, cyfreithiwr yr amddiffynnydd fod ei gleient wedi ei heffeithio yn dilyn ei hysgariad ac yn dioddef o iselder ysbryd.

Dywedodd y barnwr na fyddai'n cyhoeddi gorchymyn iawndal oherwydd bod Hodgson wedi cael ei charcharu.

Ond ychwanegodd yr oedd yn gobeithio y byddai achos sifil yn cael ei ddwyn yn erbyn Hodgson i sicrhau "eich bod yn talu bob ceiniog wnaethoch ddwyn o'r ddynes yn ôl".