Dedfrydu teulu am dwyll gwerth £600,000
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o ardal Caerdydd wedi ei garcharu fel rhan o dwyll teuluol i osgoi talu £500,000 mewn trethi oedd yn gysylltiedig â'u busnes adfer tramwyfeydd a derbyn £100,000 mewn budd-daliadau.
Cafodd pum aelod o'r teulu eu dedfrydu wedi i'r heddlu ac adrannau gwahanol y llywodraeth ddarganfod eu bod yn byw bywyd moethus er eu bod yn honni eu bod yn ennill dim ond £250 yr wythnos.
Cafodd John Coffey, 49 oed, o Lan-bedr Gwynllŵg ei garcharu am ddwy flynedd a naw mis yn Llys y Goron Bryste ddydd Gwener wedi iddo gyfaddef i'r twyll.
Cafodd ei wraig, Brigid Coffey, 51 oed, ddedfryd ohiriedig wedi iddi gyfaddef gwneud datganiadau ffug i dderbyn budd-daliadau.
£500,000
Clywodd y llys fod y teulu wedi osgoi talu £500,000 mewn trethi a hawlio £100,000 o fudd-daliadau drwy dwyll.
Cafodd tri phlentyn John a Brigid Coffey, Mary, 28 oed, Helen, 26 oed, a Michael, 23 oed ei ddedfrydu i rhwng chwe mis a 12 mis o garchar wedi ei ohirio am 18 mis.
Clywodd y llys fod y teulu, oedd yn byw yn ne Cymru a Sir Gaerloyw, yn delio'n bennaf mewn arian parod a bod John a Michael Coffey yn honni eu bod yn ennill £250 yr wythnos rhyngddynt.
Yn ystod cyfweliad â'r heddlu, honnodd John Coffey fod yr incwm teuluol yn deillio o geffylau, gosod cerrig palmant a "masnachu cyffredinol".
Wrth garcharu John Coffey am ddwy flynedd a naw mis dywedodd y barnwr, David Ticehurst, fod yn rhaid iddo dalu'r £450,000 roedd e'n addo mewn treth ymhen 28 diwrnod.
Dywedodd y barnwr y byddai'n rhaid i Michael Coffey, oedd wedi osgoi talu £50,000 mewn treth, dalu'r arian yn ôl wrth ei dedfrydu i 12 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd.
'Enw gwael'
"Unigolion fel chi sy'n rhoi enw gwael i gymuned y teithwyr," meddai'r barnwr.
"Mae'r achos hwn wedi dangos bod pob un ohonoch yn anonest a does dim esgus am eich ymddygiad."
Dechreuodd yr ymchwiliad ar safle teithwyr ym mis Hydref 2006 cyn i'r heddlu gynnal cyrch yno ym mis Ionawr 2007.
Ym mis Ebrill 2009 cafodd aelodau'r teulu eu cyhuddo o gyflawni 38 trosedd, gan gynnwys twyll budd-daliadau ac ail-gylchu arian sy'n deillio o droseddau.
Yna yn 2010 cyfaddefodd y pum aelod o'r teulu i 20 cyhuddiad mewn nifer o ymddangosiadau llys:
- Plediodd John Coffey a Michael Coffey yn euog i ddau gyhuddiad o osgoi talu trethi a chyfaddefodd John Coffey i ddau gyhuddiad o ddefnyddio enw ffug.
- Cyfaddefodd Brigid Coffey i dri chyhuddiad o wneud datganiadau ffug i dderbyn budd-daliadau a dau gyhuddiad o wneud datganiadau ffug i gael benthyciad o'r Gronfa Gyllideb Gymdeithasol.
- Plediodd Mary Coffey yn euog i dri chyhuddiad o wneud datganiadau ffug i dderbyn budd-daliadau a phedwar cyhuddiad o wneud datganiadau ffug i gael benthyciad o'r Gronfa Gyllideb Gymdeithasol.
- Cyfaddefodd Helen Coffey i ddau gyhuddiad o roi enw ffug i ynadon, un cyhuddiad o wneud datganiadau ffug i gael benthyciad o'r Gronfa Gyllideb Gymdeithasol, ac un cyhuddiad yn gysylltiedig â chais budd-dâl.
Yn dilyn yr achos, dywedodd Simon de-Kayne o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi: "Gwnaethon nhw geisio cuddio eu hincwm drwy ddefnyddio enwau ffug, agor cyfrifon banc newydd gan ddefnyddio'r arian i brynu eiddo a cherbydau."