£720,00 i gymunedau gwledig Bannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd

Mae un o barciau cenedlaethol Cymru i rannu 10 miliwn ewro gyda cumunedau gwledig eraill yn Ewrop fel rhan o gynllun yr Undeb Ewropaidd.
Bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn derbyn dros £700,000 er mwyn hybu pethau fel twristiaeth.
Nod y prosiect tair blynedd yw adfywio ardaloedd gwledig a chyfnewid arfer gorau rhwng gwahanol ranbarthau'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd yna 12 o bartneriaid eraill ledled Ewrop yn cydwetihio ar y prosiect o'r enw Cynghreiriau Gwledig.
Byddant yn creu cyfleoedd busnes newydd, diogelu a gwella gwasanaethau gwledig a gwneud eu hardaloedd yn llefydd arbennig i bobl ymweld, byw a magu teuluoedd.
'Cymunedau lleol'
Bydd Bannau Brycheiniog yn elwa o 0.5 miliwn ewro (£400,000) sydd wedi ei ddyrannu i Gymru drwy brosiect Interreg IVB Gogledd Orllewin Ewrop yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ogystal â hyn, bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi dros £320,000 (€400,000) drwy ei Gronfa Arian Cyfatebol .
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt: "Bydd dod ag entrepreneuriaid a chymunedau at ei gilydd drwy greu cynghreiriau newydd yn helpu i ffurfio cymunedau gwledig cynhwysol, hunan-gefnogol a hyderus."
'Newid demograffeg'
Dywedodd Julie James, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: "Mae'n fraint cael bod yn bartner arweiniol yn y prosiect pwysig hwn.
"Bydd yn golygu cryn dipyn i ddatblygiad ein gwaith twristiaeth ond bydd hefyd yn cyfrannu tuag at gynaladwyedd cymunedau lleol o fewn y Parc Cenedlaethol, un o'n blaenoriaethau craidd.
"Dyma'r amser i daclo materion adfywio gwledig a newid demograffeg.
"Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ogystal â phobl leol ar y siwrnai honno."
Straeon perthnasol
- 12 Mawrth 2012
- 30 Ionawr 2012
- 3 Tachwedd 2011