Dileu cyfyngiadau Chernobyl wedi 26 blynedd
- Cyhoeddwyd

Mae cyfyngiadau ar dros dri chant o ffermydd gogledd Cymru a gafodd eu cyflwyno yn sgil trychineb Chernobyl ym 1986 wedi cael eu codi.
Ym mis Tachwedd y llynedd cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd y bydden nhw'n cynnal ymgynghoriad ar godi'r cyfyngiadau ar werthu a symud anifeiliaid o fewn ardal waharddedig.
Ym mis Mawrth eleni cyhoeddodd yr asiantaeth y byddai'r cyfyngiadau yn dod i ben.
Canlyniad yr ymgynghoriad oedd nad oedd y mesurau rheoli presennol yn gymesur â'r risg isel iawn sy'n bodoli bellach, ac na fyddai diddymu'r cyfyngiadau yn peryglu diogelwch y cwsmer.
Cyfyngiadau
Gwnaeth yr Asiantaeth argymell i weinidogion San Steffan a'r sefydliadau datganoledig y dylid diddymu'r gorchmynion cyfreithiol sy'n weddill o dan y Ddeddf Bwyd a Gwarchod yr Amgylchedd 1985 sy'n cyfyngu ar symudiadau defaid ac ŵyn ar draws y DU.
Yn yr wythnosau a'r misoedd wedi'r ddamwain ar Ebrill 26, 1986, cafodd cyfyngiadau eu gosod ar dros 5,000 o ffermydd.
Dros y blynyddoedd mae'r nifer wedi gostwng i 327 yng Nghymru ac wyth yn Cumbria, Lloegr.
Golyga'r cyfyngiadau bod defaid ac ŵyn yn cael eu symud i lawr o dir uchel, fel bod mesurau ymbelydredd yn gostwng, cyn eu bod yn gallu cael eu gwerthu.
Dywedodd ymgynghorydd polisi yr Undeb Ffermwyr Cenedlaethol, Adam Briggs: "Rwyf wedi siarad â nifer o ffermwyr yn yr ardal ac maen nhw i gyd yn hapus iawn gyda'r penderfyniad.
"Y peth pwysicaf yw bod ymchwil yn dangos bod y cig yn ddiogel i'w fwyta."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2011
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2006
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2006