Teyrnged Archesgob Caergaint i'r Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Rowan WilliamsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae geiriau'r Archesgob yn rhoi darlun personol i'r cyhoedd o'r Frenhines

Mae Archesgob Caergaint wedi rhyddhau fideo fel teyrnged i'r Frenhines wrth iddi ddathlu ei Jiwbilî Diemwnt.

Mae'r fideo gan Dr Rowan Williams yn rhoi darlun prin o'i phersonoliaeth.

Yn ystod y 10 mlynedd y mae Dr Williams wedi bod yn Archesgob Caergaint, mae o wedi cyfarfod y Frenhines yn gyson fel arweinydd Eglwys Lloegr.

Fel Uchaf-Lywodraethwr yr Eglwys, Y Frenhines yw ei fos.

Mae Dr Williams wedi disgrifio fel y gall Y Frenhines fod "yn hynod ddoniol yn breifat".

Cyn cychwyn ar ei waith 10 mlynedd yn ôl, bach iawn o gysylltiad yr oedd o wedi ei gael gyda'r teulu brenhinol ac roedd yn ansicr be i'w ddisgwyl.

Ond daeth i wybod bod gan Y Frenhines "wir bersonoliaeth".

Pryfocio

"Dwi wedi ei chanfod yn berson cyfeillgar iawn, all fod yn anffurfiol, yn hynod ddoniol yn breifat, a dydi pawb ddim yn gwerthfawrogi pa mor ddoniol all hi fod," meddai yn y fideo a gafodd ei ryddhau gan Balas Lambeth.

Mae wedi bod yn son am ddigwyddiadau anffurfiol pan mae'r Frenhines "wedi bod yn barod i bryfocio a chael ei phryfocio".

"Dwi'n credu ein bod wedi bod yn ffodus yn y wlad yma yn ei chael fel pennaeth, person o wir bersonoliaeth sy'n dod yn fwyfwy amlwg yn ei hymadrodd cyhoeddus," meddai Dr Williams.

Fe ddywedodd ei bod hefyd wedi bod yn gefn iddo mewn cyfnod anodd.

Yn ystod y 60 mlynedd diwethaf mae'r Frenhines wedi gweld sawl Archesgob ac yn deall y pwysau sydd ar rywun yn y gwaith, eglurodd Dr Williams.

"Yn bersonol, dwi wedi cael y gefnogaeth gyrfa bosib, mae hi'n deall yr anawsterau sydd wedi fy wynebu ac mae hi wedi bod yn garedig tu hwnt, yn deall ac yn gefnogol a dwi wir yn gwerthfawrogi hynny."