Milwr o'r Cymry Brenhinol wedi marw
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, AP
Mae 401 o aelodau lluoedd Prydain wedi eu lladd yn Afghanistan
Mae milwr o Fataliwn 1af y Cymry Brenhinol wedi'i ladd yn Afghanistan.
Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn iddo gael ei saethu yn ardal Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand ddydd Gwener.
"Er iddo gael triniaeth feddygol bu farw o'i anafiadau," meddai llefarydd.
Erbyn hyn mae 416 o aelodau lluoedd Prydain wedi eu lladd yn Afghanistan ers 2001.