Damwain farwol: Apêl am dystion

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth merch leol 16 oed yn Sir Benfro.

Roedd y ferch yn gyrru moped pan ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A487 yn ardal Tyddewi tua 10.15pm ddydd Gwener.

Roedd BMW du hefyd yn y ddamwain.

Dylai unrhyw dystion i'r ddamwain gysylltu â'r heddlu a'r 101.

Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i achos damwain farwol ar yr A48 ger Caerfryddin.

Bu farw dyn oedd yn gyrru Volkswagen Golf gwyn yn y ddamwain ar y ffordd ddeuol am tua 11.15 am ddydd Sadwrn.