Golff: Diwrnod ofnadwy i'r Cymry
- Cyhoeddwyd
Mae'n debygol na fydd yr un Cymro yn chwarae yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth Cymru ar gwrs y Celtic Manor yn dilyn diwrnod trychinebus iddynt ddydd Gwener.
Roedd wyth o Gymry'n cystadlu eleni, gyda thri golffiwr amatur - Rhys Enoch, Rhys Pugh a Jason Shufflebotham - yn ymuno gyda'r chwaraewyr proffesiynol.
Prif obaith y Cymry cyn i'r gystadleuaeth ddechrau oedd Jamie Donaldson sydd eisoes wedi gorffen yn y deg uchaf ar gylchdaith Ewrop eleni.
Ond penderfynodd Donaldson tynnu nôl o'r gystadleuaeth oherwydd anaf i'w gefn wedi iddo gyflawni rownd gyntaf siomedig deg ergyd yn waeth na'r safon.
Eu tomen eu hunain
Y disgwyl oedd i brofiad Bradley Dredge a Phillip Price fod yn bwysig ar eu tomen eu hunain.
Ond fe orffennodd Dredge ei ail rownd 11 ergyd yn waeth na'r safon yn dilyn ail rownd drychinebus o 81 ergyd.
Gorffennodd Price ei ail rownd saith ergyd yn waeth na'r safon.
Gan ei fod yn debygol mai dim ond y chwaraewyr hynny wnaeth yn well na chwe ergyd yn waeth na'r safon fydd yn cymhwyso ar gyfer y penwythnos mae'n annhebyg y bydd Price yn ymuno â nhw.
Fe greodd yr amatur Rhys Pugh gryn argraff yn ei ymddangosiad cyntaf yn y brif gylchdaith, a gorffennodd ei rownd gyntaf ddwy ergyd yn waeth na'r safon.
Ond ni fydd yntau yn chwarae yn ystod y penwythnos wedi iddo orffen ei ail rownd 11 ergyd yn waeth na'r safon.
Un arall sydd wedi gweld ei chwarae'n gwella dros yr wythnosau diwethaf yw Rhys Davies ond roedd ef 10 ergyd yn waeth na'r safon ar ddiwedd yr ail rownd.
Pencampwriaeth Agored Cymru: Celtic Manor, Casnewydd: Ail Rownd
1. Ross Fisher (Lloegr) -6 (70,66)
2. Lee Slattery (Lloegr) -4 (67, 71)
=3. Fabrizio Zanotti (Paragwai) -3 (70,69)
=3. Thongchai Jaidee (Gwlad Thai) -3 (71,68)
=3. Chris Wood (Lloegr) -3 (72, 67)
Y Cymry :-
=87. Phillip Price = +7 (75, 74)
=102. Rhys Enoch (A) = +8 (77, 73)
=119. Rhys Davies = +10 (75,77)
=125. Bradley Dredge = +11 (72,81)
=125. Rhys Pugh (A) = +11 (73, 80)
=143. Richard Johnson = +18 (80,80)
=148. Jason Shufflebotham (A) = +24 (82, 84)
Jamie Donaldson = +10 (81) - Tynnodd yn ôl ar ôl y rownd gyntaf.