Rhwydwaith o goelcerthi i ddathlu'r Jiwbilî

Y cyngerdd tu allan i Balas Buckingham Image copyright Reuters
Image caption Roedd miloedd o bobl wedi ymgasglu y tu allan i Balas Buckingham ar gyfer y cyngerdd nos Lun

Wedi cyngerdd enfawr y tu allan i Balas Buckingham nos Lun cafodd cannoedd o goelcerthi eu cynnau ar draws Cymru.

Roedd y cyngerdd a'r coelcerthi yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Roedd y rhwydwaith o goelcerthi, bron i 200 yng Nghymru, yn rhan o rwydwaith ehangach o 2,012 drwy'r Deyrnas Unedig a 4,000 drwy'r byd.

Yng Nghymru cafodd nifer o goelcerthi eu tanio wedi diwedd y cyngerdd a oedd yn cynnwys Syr Tom Jones a'r Fonesig Shirley Bassey.

Roedd hi wedi troi 10.15pm pan gafodd y coelcerthi eu tanio, a oedd yn cynnwys copa'r Wyddfa, Pen-y-Fan, Moel Famau ac un o'r safleoedd mwya anarferol yw Ynys Echni yn aber Afon Hafren.

Cychwynnodd aelodau sy'n cynrychioli elusen Walking With The Wounded eu taith i fyny'r Wyddfa o Ben-y-Pass yng nghwmni Tîm Achub Mynydd Llanberis am 5pm nos Lun.

Unwaith iddyn nhw gynnau'r goelcerth tua 10.30pm mae disgwyl iddyn nhw gychwyn i lawr a chyrraedd Llanberis yn ystod oriau mân fore Mawrth.

Partïon

Image copyright Reuters
Image caption Julia Gillard, prif Weinidog Awstrlai gafodd y dasg o gynnau un o'r coelcerthi cyntaf

Y Frenhines wnaeth gynnau'r goelcerth olaf y tu allan i Balas Buckingham.

Yn ogystal â'r coelcerthi, a oedd yn ddiweddglo arbennig i drydydd diwrnod o ddathliadau, cafodd nifer o bartïon eu cynnal yn ystod y dydd.

Ymhlith y cantorion eraill oedd yn cymryd rhan yn y cyngerdd ar Y Mall yr oedd Syr Paul McCartney, Syr Elton John, Syr Cliff Richard, Kylie Minogue a Madness a berfformiodd ar do'r palas.

Cafodd coelcerthi eu cynnau yng ngwledydd y Gymanwlad, gan gynnwys Awstralia, Kenya, Tonga a Seland Newydd.

Roedd hefyd disgwyl i nifer o bartïon gwrth-Frenhinol neu gwrth-Jiwbilî gael eu cynnal dros gyfnod gŵyl y banc.

Dywedodd Nick Wall o fudiad Republic wrth BBC Cymru: "Mae hwn yn sefydliad gyda lot fawr o rym gwleidyddol, ond rydym ni o'r farn y dylai grym gwleidyddol gael ei benderfynu yn y blwch pleidleisio ac nid drwy berthynas gwaed."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.