Codi archfarchnad ar safle ffatri?
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor sir am wybod barn y cyhoedd am gynlluniau cwmni argraffu i newid lleoliad a gwerthu eu safle presennol ar gyfer codi archfarchnad.
Bwriad cwmni argraffu Dobson & Crowther yn Llangollen yw symud i safle y tu allan i'r dref ar yr A5.
Mae gwrthwynebwyr yn poeni y byddai codi archfarchnad yn effeithio busnesau bychain yn y dref.
Yn ôl cefnogwyr y cynllun byddai'n fodd o ddiogelu swyddi argraffu.
Bydd cynghorwyr sir Ddinbych yn penderfynu ar y mater ar ddiwedd y cyfnod o ymgynghori.
Cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno ym mis Tachwedd.
Mae'r Cyngor wedi gofyn i'r datblygwyr ateb nifer o bryderon gan gynnwys diogelwch y ffyrdd a thirwedd.
Bydd modd i bobl leol weld y cynlluniau ar eu newydd wedd yn Llyfrgell Llangollen, swyddfeydd y Cyngor yn Ninbych neu ar eu gwefan.
Dywed y cwmni y byddai symud i safle newydd yn diogelu 100 o swyddi.
Mae'r safle wedi cael ei ddefnyddio fel argraffdy am 65 o flynyddoedd.
Yn 2006 fe wnaeth grŵp o reolwyr brynu'r cwmni
Pryder gwrthwynebwyr yw y bydd archfarchnad yn denu pobl o ganol y dref.