Eryri yn croesawu Cymru
- Cyhoeddwyd

Dechreuodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri dros y penwythnos ar safle Glynllifon, chwe milltir i'r de o Gaernarfon ar ffordd Pwllheli.
Dywed Urdd Gobaith Cymru eu bod yn yn edrych mlaen i groesawu 15,000 o gystadleuwyr a hyd at 100,000 o ymwelwyr i'r ŵyl yn ystod yr wythnos.
Cododd y llenni yn y Pafiliwn nos Sul gyda chyngerdd a llu o dalentau lleol yn camu i'r llwyfan.
Bu Rhys Meirion, Calan, Tudur Owen, Côr Glanaethwy, Owen Arwyn, Glain Dafydd, John Eifion, Helen Medi, Iwan Wyn Parry, Sian Eirian a Bandana oll yn cymryd rhan.
Rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn bydd yr Eisteddfod yn cynnal cystadlaethau ar y llwyfan gydol y dydd.
Pump enillydd
Bydd pump enillydd lwcus yn cael gwahoddiad i Disneyland Paris i berfformio yn yr ŵyl Gymreig ym mis Mawrth.
Tro y cystadlaethau canlynol fydd hi eleni: Unwad Bl 2 ac iau; Unwad Bl 3 a 4; Alaw Werin Unigol Bl 6 ac iau; Dawns Werin Unigol i Ferched Bl 9 ac iau a'r Unawd Sioe Gerdd Bl10 a dan 19 oed.
Mae gweithgareddau lu ar weddill y Maes hefyd gyda 200 o stondinau yn hyrwyddo a gwerthu gwasanaethau, cynnyrch a deunydd Cymreig.
Bydd hufen gwaith celf a chrefft aelodau'r Urdd yn cael ei edmygu yn yr Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg, gyda serameg, arlunwaith, lluniau, gwehyddu a llawer mwy i'w weld yno.
Arddangosfeydd
GwyddonLe ydi'r gyrchfan ar gyfer gwyddonwyr ifanc, gydag arddangosfeydd ar thema Egni a chyfle i ddysgu am losgfynyddoedd, rhwyfo, a cheir cyflym.
Y Cwtsh ydi'r lle i fynd i gael blas ar oreuon y cystadlaethau llenyddol, a bydd cyfle i gyfarfod enillwyr y Goron a'r Gadair yno ddiwedd yr wythnos.
Bydd ysgolion lleol a bandiau gorau Cymru yn perfformio ar y Llwyfan Berfformio gydol yr wythnos, gan ychwanegu at yr ymdeimlad o ŵyl ar y Maes.
Dywedodd Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Ar ôl blynyddoedd o waith caled gan wirfoddolwyr a swyddogion, mae'r edrych 'mlaen wedi dod i ben, a'r mwynhau wedi cychwyn.
"Mae llygaid Cymru gyfan wedi troi at Eryri, ac mae harddwch y golygfeydd a chroeso cynnes holl drigolion Eryri yn argoeli am Eisteddfod i'w chofio am flynyddoedd i ddod."
'Baneri'
Dywedodd Meriel Parry, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol: "Mae'r pentrefi a'r trefi o Aberdaron i Abergwngregyn wedi eu gwisgo mewn baneri coch, gwyn a gwyrdd i groesawu holl ymwelwyr yr Eisteddfod yn gynnes iawn i'r fro.
Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddilyn yr arwyddion swyddogol wrth deithio i'r Maes.
Bydd system unffordd yn bodoli o fore dydd Llun hyd y nos Sadwrn gyda cheir yn cael teithio lawr Allt y Glyn a fyny'r Allt Goch.
Mae'r manylion ar sut i gyrraedd y Maes, a manylion am wasanaeth bysiau arbennig, ar wefan Urdd Gobaith Cymru.