Tagfeydd yn achosi oedi i Eisteddfodwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer fawr o bobl wedi ei chael hi'n anodd cyrraedd maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nglynllifon ar y diwrnod cyntaf.

Roedd yna adroddiadau fod pobl wedi bod yn eu ceir am oriau wedi tagfeydd hyd at wyth milltir o hyd yn ardal Caernarfon.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru mae 'na oedi i'r ddau gyfeiriad ar ffordd yr A499 rhwng ffordd yr A487 ym Montnewydd a Lôn Cefn Glyn yn Llandwrog bore Llun.

Y gred yw bod yr oedi wedi'i achosi gan bobl yn teithio i Lynllifon ac ymwelwyr sy'n teithio i gyfeiriad Abersoch ac Aberdaron ar gyfer gŵyl y banc.

Tagfeydd

Roedd 23,913 o bobl wedi mynd i'r Eisteddfod ddydd Llun, y nifer uchaf erioed.

"Yn anffodus, er bod cynlluniau rheoli traffig wedi eu paratoi gan Eisteddfod yr Urdd ac wedi eu cymeradwyo gan Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd, achosodd cyfuniad o draffig trwm a ddaeth i'r Maes a thraffig Gŵyl y Banc a oedd yn teithio nôl a blaen o Ben Llŷn dagfeydd ar yr A487 a'r A499 heddiw," meddai llefarydd ar ran Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd.

"Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.

Disgrifiad,

Dylan Jones sy'n holi rhai Eisteddfodwyr a Chyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion

"Fel sy'n arferol i ddigwyddiadau mawr fel Eisteddfod yr Urdd, mae'r cynlluniau traffig yn cael eu hadolygu'n gyson i weld a ellir gwella pethau ar gyfer gweddill yr ŵyl.

"Bydd rhai newidiadau yn cael eu gwneud i'r cynlluniau traffig ar gyfer gweddill yr wythnos.

"Ein cyngor i ymwelwyr â'r maes yw cychwyn eu taith yn fuan, dilyn yr arwyddion, ac i bobl leol ddefnyddio'r gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus a'r bysiau wennol i'r Maes o Gaernarfon a Phwllheli os oes modd."

Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, bod 5,500 o geir wedi mynd i'r maes parcio cyn amser cinio ddydd Llun, a bod hynny nifer yn fwy na'r nifer yr oedden nhw wedi ei ragweld ar gyfer y dydd Llun.

Cyfarfod

"Mae'r cynllun wrth gefn wedi ei weithredu ac mae modd parcio'r ochr arall erbyn hyn," meddai Mr Siôn.

"Yn sicr fe fyddwn yn trafod yn ddiweddarach mewn cyfarfod gyda'r holl asiantaethau ar ddiwedd y dydd.

"Y broblem yw dod a nifer o geir i mewn drwy un fynedfa ac mae'n broblem sylfaenol cael pawb i mewn i'r un lle o fewn yr un amser.

"Rydym yn derbyn cyngor yr heddlu a'r awdurdod lleol ac yn ymddiheuro am yr oedi.

"Dydi hi ddim yn ddiogel i blant gerdded ar ochr y ffordd eu hunain a fyddwn i ddim yn argymell bod rhieni yn caniatáu hynny."

Ychwanegodd bod rhai rhagbrofion wedi cychwyn yn hwyr ond bod yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan yn rhedeg ar amser.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr Urdd fod bws wennol yn teithio bob awr o Gaernarfon a Phwllheli i Lynllifon ond bod y tagfeydd traffig bore Llun wedi creu problemau iddyn nhw peth cynta' hefyd.