Damwain: Dyn ag anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr wedi cael ei anafu'n ddifrifol wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad â char Skoda yn Abertawe yn ystod oriau mân fore Llun.
Digwyddodd y ddamwain tua 3.40am ar y cyffordd rhwng Ffordd San Helen a Ffordd Henrietta yn ôl Heddlu De Cymru.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol