Ffordd ar gau wedi i drelar fynd ar dân yn Sir Gâr
- Published
Mae un o brif ffyrdd Sir Gâr ar gau i'r ddau gyfeiriad wedi i ddiffoddwyr ddiffodd tân mewn trelar.
Cafodd dau griw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Lanwrtyd a Llanymddyfri eu galw am 12.23pm ddydd Llun i ddelio â'r tân ger Cynghordy.
Er bod y tân wedi ei ddiffodd erbyn 7pm mae'r ffordd yn parhau ar gau.
Dywed Traffig Cymru fod y digwyddiad yn effeithio ar yrwyr sy'n teithio rhwng Llanymddyfri a Llanwrtyd.
O ganlyniad mae traffig yn cael ei ddargyfeirio 50 milltir i osgoi'r ardal.
Chafodd neb eu hanafu gan y tân.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol