Caer yn atyniad o fewn blwyddyn

  • Cyhoeddwyd
St Catherine's Island
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r llanw yn cyfyngu ar fynediad i'r ynys

Gallai caer Fictorianaidd ar ynys ger Sir Benfro ailagor fel atyniad i dwristiaid o fewn blwyddyn.

O dan gynllun newydd gallai'r gaer ar ynys Sant Catherine ger Dinbych-y-pysgod gael ei droi'n brofiad hanesyddol gyda thywyswyr mewn gwisgoedd arbennig.

Dywedodd rheolwr y cynllun, Peter Prosser, mai'r allwedd i'r cyfan yw cael caniatâd i godi pont i gysylltu'r ynys gyda'r tir mawr.

"Rydym wedi bod yn ceisio gwneud hyn ers 20 mlynedd - mae sawl un wedi ceisio teithio'r ffordd yma a tharo yn erbyn wal," meddai.

Amddiffynfa'r arfordir

Ar un tro roedd yr ynys yn perthyn i Jasper, Iarll Penfro ac ewythr Harri'r VII, ond cafodd ei werthu ym 1860 i'r Swyddfa Rhyfel er mwyn codi caer arni.

Ffynhonnell y llun, Tenbyisland.co.uk
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gaer ei chwblhau ym 1870 fel rhan o amddiffynfeydd arfordir Prydain

Cafodd y gaer ei chwblhau ym 1870 fel rhan o gynlluniau'r prif weinidog yr Arglwydd Palmerston i amddiffyn arfordir Prydain.

Cafodd y gaer ei gwerthu fel cartref preifat yn y 1900au cynnar, ac yn ddiweddarach roedd yn gartref i sŵ a gaeodd yn y 1970au hwyr.

Mynnodd Mr Prosser ei bod yn bryd i'r ynys a'r gaer ailagor i'r cyhoedd.

Dywedodd mai'r cynllun yw i droi'r gaer yn atyniad hanesyddol i dwristiaid, ac i gyflogi bron 40 o bobl.

Dywedodd: "Rydym yn gobeithio creu atyniad gwych i deuluoedd lle gallwch weld hanes a dod yn rhan o hanes."

'Pont yn allweddol'

Ychwanegodd y gallai'r adnodd fod ar gael at ddefnydd y gymuned y tu allan i'r tymor ymwelwyr.

Cyfaddefodd fod sawl ymgais i ailagor yr ynys yn y 1970 wedi methu yn bennaf oherwydd nad oes mynediad parhaol i'r ynys o'r tir mawr.

"Mae codi pont yn allweddol i'r cynllun - mae'r 100m yna'n hanfodol," meddai.

"Ar hyn o bryd mae'r llanw yn cyfyngu ar fynediad i'r ynys i un wythnos o bob dwy, a hyd yn oed wedyn dim ond am chwe awr y dydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: "Mae'r awdurdod wedi cynnal trafodaethau cychwynnol ac anffurfiol gyda'r datblygwr am ddyfodol ynys Sant Catherine, ond does dim cais ffurfiol wëid ei gyflwyno hyd yma."

Yn ôl Mr Prosser, mae'r tîm wrthi'n cynnal cyfres o astudiaethau, gan gynnwys ystyried bywyd gwyllt yr ynys, cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio erbyn mis Gorffennaf.

Ychwanegodd y gallai gymryd blynyddoedd i wireddu'r cynllun, a'i fod yn ymwybodol o beidio codi gobeithion o ystyried methiant sawl ymgais arall i ailagor y gaer.

Ond dywedodd y gallai ddigwydd llawer cynt os fyddai cefnogaeth swyddogol a chyhoeddus.

"Hoffwn weld y lle yn agor erbyn 2013, ac fe fyddwn ni'n brwydro hyd yr eithaf i weld hynny'n digwydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol