Hanes Llansannan i'w gofnodi wedi grant gan y Loteri
- Cyhoeddwyd

Mae Menter Bro Aled, cylch Llansannan, yn sir Conwy wedi llwyddo i ddenu grant o £13,400 o Gronfa'r Loteri i gynhyrchu llyfr a chryno ddisg i roi sylw i hanes y fro.
Y bwriad yn ôl arweinydd y Fenter, Berwyn Evans, ydi cael y bobl leol i gyfrannu trwy ysgrifennu ychydig o hanes eu teulu ynghyd â lluniau er mwyn diogelu'r hanesion at y dyfodol.
Dywedodd bod yr egin am y llyfryn wedi dod o Iwerddon lle'r oedd criw o ferched wedi dod at ei gilydd i gofnodi hanes y teuluoedd yno.
Ei fwriad yw cael 200 o deuluoedd yn Llansannan i lenwi tudalen yn cynnwys amryw o luniau a hanesion.
'Ar gof a chadw'
"Fe fyddwn ni'n cael lluniau ddoe a heddiw a hanes pob teulu ar bob tudalen.
"Fe fydd 'na dipyn o wybodaeth ar gof a chadw.
"Fe fyddwn hefyd yn creu DVD o atgofion y cymeriadau.
Adroddiad Merfyn Davies
"Mae 'na rai tua 90 oed yn y pentre' ac maen nhw'n cofio dipyn go lew."
Dywedodd bod yr ymateb wedi bod yn dda iawn ac y bydd pob teulu fydd yn cymryd rhan yn cael copi o'r llyfr a'r DVD am ddim.
Fe fydd Prifysgol Bangor yn cynorthwyo'r gymuned gyda'r gwaith ymchwil, y cyfweld a chasglu'r wybodaeth.
Gobaith y trefnwyr yw y bydd y gwaith ymchwil wedi ei wneud cyn diwedd y flwyddyn ac y bydd yn cael ei gyhoeddi gan roi darlun o Fro Aled yn 2012 ar gof a chadw.