Jiwbilî Diemwnt: Partïon a medalau i filwyr

  • Cyhoeddwyd
Côr DiemwntFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Lydia Harrison, Oliver Barton a Hero Melia yn y côr o 40 o blant

Roedd Cymru'n rhan o bedwerydd diwrnod dathliadau'r Jiwbilî Diemwnt ddydd Mawrth wrth i nifer o bartïon stryd gael eu cynnal.

Roedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a Llywydd Y Cynulliad, Rosemary Butler, yn y Gwasanaeth Diolchgarwch yn Eglwys St Paul's yn Llundain cyn i Mr Jones gyflwyno medalau'r Diemwnt Jiwbilî i filwyr o Gymru yn Wiltshire.

Yng ngwersyll Lucknow y cyflwynodd Mr Jones y medalau i Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol.

Mae'r bataliwn wedi bod yn Irac yn 2007 ac yn Afghanistan rhwng Gorffennaf 2010 a Chwefror 2011.

Triniaeth

Yn y cyfamser, mae Dug Caeredin yn dal i gael triniaeth yn Ysbyty Edward VII yn Llundain am haint ar ei bledren.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Rhai o aelodau'r Teulu Brenhinol ar y Balconi i wylio'r awyrennau dros y Palas

"Mae'r Frenhines wedi cysegru ei bywyd i wasanaethu'r wlad ac mae'r Jiwbilî Diemwnt yn gyfle i ni gyd ddathlu ei hymrwymiad dros y 60 mlynedd diwethaf," meddai Mr Jones.

"Mae'n iawn i'r rhai eraill sydd wedi cysegru eu bywydau i wasanaethu'r cyhoedd gael eu cydnabod a dwi'n hynod falch i fod yn cyflwyno'r medalau i'r milwyr."

40 o blant

Yn y gwasanaeth fore Mawrth roedd tri o Gymru yn y Côr Diemwnt.

Lydia Harrison, Oliver Barton a Hero Melia oedd aelodau'r côr o 40 o blant berfformiodd ddarn newydd o waith gan y cyfansoddwr ifanc Will Todd, sef Call of Wisdom.

Nos Lun cafodd tua 200 o goelcerthi eu tanio yng Nghymru a 4,000 drwy'r byd.

Yn eu plith roedd rhai ar gopa'r Wyddfa, Pen Y Gogarth, Moel Famau, Pen-y-fan ac Ynys Echni.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd miloedd yn gwylio'r orymdaith yn y Mall

Yn Yr Wyddgrug mae'r trigolion lleol yn cynnal parti ar hyd y stryd fawr a strydoedd cyfagos gan ddilyn thema'r 1950au.

'Uchelgeisiol'

Mae'r Stryd Fawr wedi ei chau i draffig drwy'r dydd a bydd dathliadau'r Jiwbilî yn Llundain ar sgrin fawr.

Ar hyd y stryd mae 'na amrywiaeth o stondinau ac atyniadau.

"Mae pobl Yr Wyddgrug wedi bod yn gefnogol iawn ac yn cynorthwyo'r dref i gynnal digwyddiad mor uchelgeisiol," meddai David Hill, rheolwr tref Yr Wyddgrug.

"Fe fydd yn ddiwrnod gwych ac yn ffordd arbennig o ddathlu'r Jiwbilî."

Dydd Mawrth yn Ffos Las, Sir Gaerfyrddin, mae diwrnod rasio a sawl picnic yn cael eu cynnal.

Mae un yn Nhŷ Gwledig Bryngawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac un ger Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Protestiadau

"Mae'n flwyddyn Olympaidd ac felly dwi'n credu y dylen ni wneud pob ymdrech i ddod at ein gilydd yn ffrindiau a chymdogion mewn parti stryd neu bicnic neu ddigwyddiad arall," meddai'r Cynghorydd Phil White o Ben-y-bont ar Ogwr.

Mae protestiadau gwrth-frenhinol wedi bod dros y penwythnos.

Yng Nghaerdydd am yr ail flwyddyn yn olynol cynhaliwyd Diwrnod y Gweriniaethwyr yn y bae.

Nos Fawrth mae ymgyrch Cymru Sofran - ymgyrch i gael cydnabyddiaeth i Gymru fel gwlad gan y Cenhedloedd Unedig - yn dechrau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol