Angharad Tomos: 'Oes angen cymaint o bwyslais ar gystadlu?'
- Cyhoeddwyd

Mae'r awdur Angharad Tomos wedi codi cwestiwn am y pwyslais mawr ar gystadlu mewn Eisteddfodau.
Hi yw Llywydd y Dydd ddydd Mawrth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012, un o bum llywydd yr wythnos hon.
"Mae'r Steddfod yn beth da i fagu hyder ymhlith plant a phobl ifanc ond dwi ddim yn siŵr a ddylid rhoi cymaint o bwyslais ar y cystadlu," meddai Angharad sy'n briod ac yn fam bachgen bach 9 oed, Hedydd Ioan, sy'n aelod o'r Urdd.
"Gwn mai dyna'r holl syniad efo Steddfod ond weithiau byddai'n braf cael gŵyl lle mae plant Cymru yn dod at ei gilydd i gyd-chwarae a darganfod pethau."
Bro ei mebyd
Fe'i ganed a'i magwyd yn Llanwnda ger Caernarfon a dywedodd ei bod yn falch o allu croesawu'r Eisteddfod i fro ei mebyd.
"Bûm yn aelod o'r Urdd am flynyddoedd lawer, gan fwynhau mynychu Gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn a chystadlu mewn nifer o Eisteddfodau", meddai.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf ym 1981 yng Nghastell Newydd Emlyn ac yna'r eildro'r flwyddyn ganlynol ym Mhwllheli ym 1982.
Mae'n awdur chwe nofel i oedolion, cyfres Rwdlan i blant, cofiant i'w thaid (Hiraeth am Yfory) a hunangofiant (Cnonyn Aflonydd).