Arestio dau wedi lladrad mewn siop

  • Cyhoeddwyd
Car heddluFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i ddigwyddiad mewn siop yn Nhre-lyn ger y Coed Duon pan gafodd aelod staff anafiadau difrifol i'w ben.

Yn ôl yr heddlu, fe aeth dyn i mewn i siop Spar ar yr Heol Fawr tua 4.20pm brynhawn Llun a tharo gweithiwr â bar metel cyn i'r til gael ei ddwyn.

Mae dau ddyn wedi'u harestio ar amheuaeth o ladrata, y naill yn 27 oed o Dredegar Newydd a'r llall yn 22 oed o'r Coed Duon.

Aed â gweithiwr y siop, dyn 26 oed, i Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, cyn cael ei ryddhau'n ddiweddarach.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol