Gwaith Bardd Plant Cymru a'r disgyblion yn y Pafiliwn
- Cyhoeddwyd

Pan gyhoeddwyd y llynedd mai Eurig Salisbury fyddai Bardd Plant nesa' Cymru cafodd ei benodi am ddwy flynedd.
Eleni fe wnaeth Eurig annerch Eisteddfodwyr gyda chymorth disgyblion dwy ysgol y mae wedi bod yn cyd-weithio â nhw yn ddiweddar.
Roedd yn gyfle i bobl gael blas ar ffrwyth gweithdai Bardd Plant Cymru a mwynhau perfformiad o un o'i gerddi yn y Pafiliwn.
Ymunodd disgyblion Ysgol y Gorlan, Tremadog ac Ysgol Pentreuchaf ger Pwllheli ag Eurig i gyflwyno cerdd ysgrifennwyd ar y cyd.
"Fe adroddes i chwedl Taliesin gyda'r plant, neu ei dechrau hi o leiaf, gan eu hannog nhw wedyn i greu eu cerddi eu hunain ar y testun 'Rysáit Ceridwen' - hynny yw'r holl bethau afiach a hyfryd y gallai hi fod wedi'u rhoi yn y pair i wneud yr hud," eglurodd Eurig cyn y perfformiad.
"Anfonodd y plant eu cerddi ata i ac fe es i ati i lunio cerdd newydd sbon yn seiliedig ar eu syniadau nhw.
"Hon fydd y gerdd y byddwn ni'n ei darllen ar y llwyfan - dim byd rhy anodd, jyst eu bod nhw'n cael rhywfaint o hwyl."
'Cynhwysion cerdd'
Disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Pentreuchaf oedd yn cyd-sgwennu.
"Mi oedden ni'n glustiau i gyd ar y dechrau wrth i Eurig adrodd chwedl Ceridwen - ac yna fe eglurodd y bydden ni'n cyfrannu at gerdd fyddai'n cael ei hadrodd o'r llwyfan ddydd Mawrth yr Eisteddfod," meddai'r plant.
"Ein tasg ni oedd llunio cerdd, gan feddwl am gynhwysion fyddai'n cael eu rhoi yng nghrochan y wrach Ceridwen - a wir i chi, fe ychwanegwyd pethau digon anghynnes i'r cymysgedd."
Mae Eurig wedi cyflawni llawer yn ystod ei 12 mis cyntaf, gan gynnwys bod mewn digwyddiad gyda Julia Donaldson - Awdur Llawryfog Plant Lloegr a Catherine Fisher, Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru.
Cymrodd ran yng nghwrs Bang yr Urdd a nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys Calon Cenedl S4C, Gŵyl Blant Merthyr, Gŵyl Blant Tonyrefail, ac ymweld â Chymunedau Darllen y Cyngor Llyfrau, ysgolion sydd wedi ennill cystadlaethau Clwb Llyfrau, Ardaloedd Cynlluniau Gweithredu Iaith Bwrdd yr Iaith, a Tafwyl (ffair haf Menter Caerdydd).
'Bythgofiadwy'
Bydd yn ymweld â Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr.
"Dwi erioed wedi bod mor brysur - nac mor hapus, mewn gwirionedd," meddai.
"Mae teithio'r wlad fach enfawr hon dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, a'r peth gorau yw bod blwyddyn arall i ddod.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr, a minnau wedi cael fy nhraed oddi tana i go iawn erbyn hyn, at roi cynnig ar bethau newydd gyda'r plant - fel cyflwyno'r gynghanedd a sôn am farddoniaeth wych yr Oesoedd Canol gyda chymorth fideo rhyngweithiol newydd sbon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2006
- Cyhoeddwyd31 Mai 2011