Cytundeb £4m: Cwmni o'r canolbarth yn cyflenwi Renault
- Cyhoeddwyd

Bydd cytundeb £4m â chwmni Ffrengig yn diogelu 50 o swyddi mewn dwy ffatri.
Trax J H fydd yn cyflenwi cydrannau ceir i Renault ac yn diogelu swyddi yn Y Trallwng a'r Drenewydd.
Bydd cydrannau ar gyfer ceir Renault a Dacia wedi eu cynhyrchu yn Ffrainc, Sbaen, Rwsia, Slofenia, Twrci, India, Columbia, Brasil a'r Ariannin.
Allforion yw mwy na 70% o gynnyrch y cwmni, y rhan fwyaf i Ewrop.
'Cam mawr ymlaen'
Dywedodd y cwmni fod y cytundeb yn "gam mawr ymlaen" a bod cytundebau eraill "ar y gweill".
Serch hynny, meddai, roedd y cyfnod economaidd anodd wedi effeithio ar werthu cynnyrch.
"Rydym yn arbennig o falch y byddwn ni'n cyflenwi marchnadoedd Brasil, Rwsia a'r India lle mae mwy o geir wedi cael ei werthu ers ychydig o flynyddoedd," meddai'r rheolwr gyfarwyddwr, John Hallé.
"Mae'r cwmni wedi cael ei sefydlu yn y canolbarth ers 20 mlynedd.
"Rydym yn ddiolchgar i HSBC a Chyllid Cymru sy wedi ein cefnogi ni'n ariannol."
Straeon perthnasol
- 24 Hydref 2008