Caerdydd: Coch nid glas?
- Published
Mae disgwyl i Glwb Pêl-droed Caerdydd ddatgelu cynlluniau am fuddsoddiad ac ail-frandio fore Mercher.
Mae aelodau o Fwrdd Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cwrdd â'r cadeirydd Dato Chan Tien Ghee, er mwyn trafod dyfodol y clwb.
Trafodwyd unwaith eto gynlluniau i'r tîm chwarae mewn coch, ac i fabwysiadu logo newydd sef y ddraig.
Roedd wedi ymddangos i'r cynlluniau gael eu gollwng ym mis Mai pan gythruddwyd rhai cefnogwyr.
Mae disgwyl i'r clwb gyfleu syniadau gan y gwŷr busnes o Falaysia sydd wedi buddsoddi yn y clwb.
Un o'r prif fuddsoddwyr o Falasia yw Vincent Tan.
Roedd e wedi bod yn sôn am fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd, ond byddai'n rhaid hefyd i'r clwb newid.
Cynhesrwydd
Ym mis Mai dywedodd Tien Ghee: "Rwyf am ailadrodd fod yna ymroddiad a chynhesrwydd i'r clwb yma oddi wrthyf i a Tan Sri Vincent Tan.
"Y clwb yma a'r cefnogwyr yw ein blaenoriaeth ac rydym yn gobeithio cwblhau pethau yn fuan, a hynny gyda'r canlyniad gorau posib.
"Rwyf yn dymuno diolch i'r rhai sy wedi anfon neges o gefnogaeth, unai yn uniongyrchol neu drwy' clwb."
Straeon perthnasol
- Published
- 10 Mai 2012
- Published
- 9 Mai 2012
- Published
- 9 Mai 2012
- Published
- 11 Mai 2012