Torri menyw yn rhydd o gar
- Cyhoeddwyd

Treuliodd criwiau tân 30 munud yn ei thorri'n rhydd o'r car.
Cafodd menyw ei thorri yn rhydd o gar nos Fawrth yn dilyn gwrthdrawiad â lori.
Digwyddodd y ddamwain ar yr A548 tua 7pm ar Ffordd Osgoi Bagillt yn Sir y Fflint.
Bu'n rhaid i griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru dreulio 30 munud yn ei thorri'n rhydd o'r car.
Aed â hi wedyn i Ysbyty Iarlles Caer.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol