Llywydd y Dydd yn cofio 'trobwynt'
- Cyhoeddwyd

Mae Llywydd y Dydd yn yr Urdd wedi sôn am y brotest pan deimlodd yn "Gymro go iawn" am y tro cyntaf.
Perchennog Ceir Cymru, Gari Wyn, yw Llywydd y Dydd.
Y brotest oedd "... Cymdeithas yr Iaith yn codi sŵn wrth weld y Tywysog Charles yn camu i'r llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd Aberystwyth '69 ...," meddai.
"Mi gerddais innau allan o'r pafiliwn mewn protest, yn 13 oed gyda'm ffrindiau.
"Mi fues i'n aelod o bartïon bechgyn a chorau tra ro'n i'n ddisgybl yn Llanrwst ac mae gen i gof i ni ennill yn y côr bechgyn deirgwaith yn Eisteddfodau'r Urdd."
'Cyfleoedd'
Dywedodd fod dylanwad yr Urdd wedi bod yn fawr.
"Yn Aelwyd St Johns, Caer, y cyfarfu fy rhieni. Felly dwi'n ddyledus iawn i'r Urdd am gynnig cyfleoedd i bobl ifanc o Gymru gymdeithasu y tu allan i Gymru."
Mae Ceir Cymru, sydd â safleoedd yng Nglasfryn ger Cerrigydrudion, sir Conwy a Bethel ger Caernarfon, wedi tyfu dros y blynyddoedd a'r cwmni'n cadw tua 200 o geir ail-law mewn stoc.
'Amhosib'
"Hyd heddiw dwi'n parhau i geisio dilyn amcanion a delfrydau tri nod enwog yr Urdd ac ar ben hynny yn ceisio cenhadu dros un ffactor sy'n garreg sylfaen i ddyfodol Cymreictod - hyrwyddo busnesau Cymreig o bob math", meddai.
"Heb strwythur fusnes cynhenid Cymreig bydd cynnal conglfeini ein diwylliant, iaith a'n cymunedau i'r dyfodol yn amhosib.
"Dwi'n credu bod gan yr Urdd le tyngedfennol bwysig i chwarae wrth annog ieuenctid Cymru i fod yn rhan o'r strwythur fusnes llewyrchus."