Dau ladrad arfog mewn tafarndai

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Not Specified

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi dau ladrad arfog mewn tafarndai.

Roedd y gyntaf yn nhafarn y Clwydian yn Stryd Fawr, Prestatyn, sir Ddinbych ddydd Mawrth am 11pm.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans bod tri dyn wedi mynd i'r dafarn gan fygwth staff â chyllell a dwyn arian.

Roedd yr ail ladrad yn nhafarn y Red Lion yn Llanasa, sir y Fflint ddydd Mercher am 8am. Yno hefyd fe ddefnyddiwyd cyllell a llwyddwyd i ddwyn arian.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol