Caerdydd: Cadarnhau crysau coch

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwyr a pherchnogion Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi cadarnhau y bydd y clwb yn newid lliw eu crysau o las i goch fel rhan o becyn i ariannu'r clwb i'r dyfodol.

Mewn datganiad fore Mercher mae'r clwb wedi sôn am eu cynlluniau i daclo dyled hanesyddol y clwb ynghyd â dod o hyd i farchnadoedd newydd yn y dwyrain pell.

Rhan o'r cynllun fydd newid lliw ac arfbais y clwb.

Adolygiad

Yn y datganiad dywedodd y clwb: "Yn dilyn adolygiad trylwyr o adborth ehangach y cefnogwyr, bydd clwb Caerdydd yn ailgyflwyno cynlluniau ail-frandio er mwyn gwneud y gorau o'r brand ac incwm yn y marchnadoedd rhyngwladol.

"Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Tan Sri Vincent Tan a Dato Chan Tien Ghee (y buddsoddwyr) wedi addo parhau gyda'u hymrwymiad ariannol i alluogi'r clwb i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

"Fel rhan o'r ymrwymiad, mae arian wedi ei glustnodi i ddatrys y ddyled Langston hanesyddol sydd wedi taflu cysgod dros y clwb a'i ddyfodol.

"Mae trafodaethau wedi digwydd sydd wedi arwain at gynnig terfynol i'r rhai sy'n cynrychioli Langston a Sam Hammam - cynnig yr ydym yn credu sy'n un teg a rhesymol.

"Er nad yw'r mater ar ben, rydym yn gobeithio y bydd Langston a Sam yn ymateb yn ffafriol er mwyn caniatáu i'r mater yma gael ei ddatrys yn derfynol er budd pawb.

"Ar yr un pryd bydd cynlluniau mewn perthynas â maes ac adnoddau ymarfer newydd yn mynd yn eu blaenau, ac fe fydd astudiaeth dichonolrwydd am ehangu'r stadiwm yn digwydd pan fydd yn briodol.

"Mae ein buddsoddwyr hefyd wedi cadarnhau cefnogaeth fydd yn caniatáu i Malky Mackay gryfhau'r garfan ar gyfer y tymor i ddod."

Ffynhonnell y llun, Cardiff City Football Club
Disgrifiad o’r llun,
Dyma fydd arfbais newydd y clwb

'Cydnabod hanes'

Dywedodd prif weithredwr Caerdydd, Alan Whiteley: "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac rydym yn ddiolchgar i'n buddsoddwyr am eu hyder parhaus yn y clwb.

"Wrth edrych ar ddatblygu'r arfbais a newid ein prif liw i goch, rydym fel cyfarwyddwyr - a chefnogwyr - yn cydnabod yr hanes a'r ymrwymiad sy'n rhan o fod yn gefnogwr ac yn ymwybodol ac yn falch o'r teyrngarwch y mae llawer yn rhannu tuag at y clwb.

"Ar yr un pryd rhaid bod yn realistig a blaengar. Mewn cyfnod ariannol anodd, weithiau mae'n rhaid gwneud penderfyniadau dewr a beiddgar, a rhaid aberthu hefyd.

"Drwy sicrhau'r buddsoddiad yma gallwn ddiogelu dyfodol tymor hir i'r clwb."

Ymateb cymysg

Dywedodd un o'r buddsoddwyr, Dato Chan Tien Ghee: "Rwy'n gwybod ac yn deall yr amheuaeth ymysg rhai am y newidiadau sy'n dod law yn llaw gyda'r buddsoddiad yma ond yn gobeithio y bydd ein cefnogwyr teyrngar yn dod i dderbyn y newidiadau yn yr ysbryd y maen nhw'n cael ei wneud ac yn parhau gyda'u cefnogaeth wych.

"Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd fydd y clwb am byth ac nid bwriad y newidiadau yw dinistrio unrhyw ran o hanes na diwylliant y clwb.

"Bydd y lliwiau ac arfbais newydd gyda llun y ddraig - sef y symbol oedd ar fathodyn y clwb wrth ennill Cwpan yr FA yn 1927 - yn cydnabod yr hanes ac yn creu cyswllt symbolaidd gydag Asia fydd yn ein caniatáu i chwifio baner Caerdydd yno."

Ar wefannau cymdeithasol ddydd Mercher cymysg fu'r ymateb ymysg cefnogwyr Caerdydd.

Er bod nifer yn flin am y newid i liw crysau'r tîm ac i'r arfbais, roedd llawer yn croesawu'r buddsoddiad.

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd wedi croesawu'r buddsoddiad ond maen nhw wedi galw am gael mwy o fanylion am lefel y buddsoddiad.

'Deall yr awydd'

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth, Tim Hartley: "Mae cwestiynau sydd angen eu hateb - er enghraifft beth sy'n digwydd i'r buddsoddiad os nad oes cytundeb am y ddyled hanesyddol gyda Langston, a faint yn union fydd yn cael ei fuddsoddi a thros ba gyfnod?

"Er ein bod yn deall awydd y perchnogion o Malaysia i newid lliw'r crysau a'r bathodyn, bydd nifer o gefnogwyr yn siomedig gyda hyn.

"Mae eraill wedi mynegi cefnogaeth ond ar y sail y bydd y buddsoddiad yn mynd ymlaen.

"Mae'r bennod gyfan yn cryfhau'r ddadl dros gael cynrychiolaeth o gefnogwyr ar y bwrdd fel sy'n digwydd yn Abertawe ac mae'n rhywbeth yr ydym wedi dweud wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin i reolaeth pêl-droed.

"Mae'n hanfodol bod llais y cefnogwr cyffredin yn cael ei glywed.

'Yn fasnachol'

"Hoffwn wybod mwy hefyd am yr hyn y mae'r newidiadau yn golygu i'r clwb yn fasnachol."

Ychwanegodd fod yr ymddiriedolaeth yn cynnal cyfarfod o'r bwrdd nos Fercher, ac y bydd cyhoeddiad y clwb ar yr agenda.

"Byddwn yn ymgynghori gyda'r aelodau a monitro'u hymateb i'r newidiadau i'r crysau a'r arfbais, ac yn adrodd yn ôl i'r clwb," meddai.

Mae disgwyl ymateb gan Glwb Cefnogwyr ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd yn nes ymlaen.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol